Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 2
Chwefror 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11176
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Atebodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip gwestiynau 1-2 a 4-5 am y 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â’i chyfrifoldebau. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.43
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19
Dechreuodd yr eitem am 15.03
4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Adolygiad Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Dechreuodd yr eitem am 15.50
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Cynnydd o ran Trethi Datganoledig
Dechreuodd yr eitem am 16.29
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cafodd eitemau 6-8 eu grwpio ar gyfer dadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân.
6 Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Dechreuodd yr eitem am 17.12
NDM7573 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020
Dechreuodd yr eitem am 17.12
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7572 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
11 |
3 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021
Dechreuodd yr eitem am 17.12
NDM7571 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Rhagfyr 2020
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021
Dechreuodd yr eitem am 17.30
NDM7570 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Ionawr 2021.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021
Dechreuodd yr eitem am 17.35
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7574 Jeremy Miles (Castell-nedd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 25.15 yn cymeradwyo fersiwn ddrafft Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021.
Gosodwyd y Gorchymyn Drafft (Saesneg yn unig) a'r Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Ionawr 2021.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
4 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cafodd eitemau 11-12 eu grwpio ar gyfer dadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân.
11 Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)
Dechreuodd yr eitem am 17.43
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7579 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.102:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws).
Gosodwyd Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 27 Ionawr 2021.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
5 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
12 Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)
Dechreuodd yr eitem am 17.43
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7578 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
5 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
13 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.24 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 18.28.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.31
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 3 Chwefror 2021